2016 Rhif 60 (Cy. 30)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn ar gyfer penderfynu ar apelau dilysu a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Yn unol ag adran 62ZB(6) mae apelau dilysu yn cael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig. Mae’r weithdrefn yn cynnwys y camau a ganlyn—

(a)     rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad eu bod wedi cael yr apêl (rheoliad 3);

(b)     ni roddir cyfle i’r apelydd nac i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno sylwadaethau ar sylwadau’r naill a’r llall (rheoliad 4); ac

(c)     rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol am eu penderfyniad a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw (rheoliad 6).

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru

 

 

 


2016 Rhif 60 (Cy. 30)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad

 Cenedlaethol Cymru             1 Chwefror 2016

Yn dod i rym                        16 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 323A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 16 Mawrth 2016.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl a wneir o dan adran 62ZB o’r Ddeddf (hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad)([2]);

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw’r person sy’n rhoi hysbysiad apêl i Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r corff a roddodd yr hysbysiad o dan adran 62ZA([3]) o’r Ddeddf a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000([4]);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac

ystyr “hysbysiad apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad apêl o dan adran 62ZB o’r Ddeddf.

(2) Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—

(a)     mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;

(b)     mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill yn cynnwys cyfeiriadau at ddogfennau o’r fath ar ffurf electronig.

(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu anfon ato, unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall.

(4) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—

(a)     yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;

(b)     yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)      yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(6) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(7) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.

Hysbysu ynghylch cael apêl

3. Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi iddynt gael hysbysiad apêl, roi gwybod i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—

(a)     am y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i’r apêl; a

(b)     y bydd yr apêl yn dilyn y gweithdrefnau a nodir yn y Rheoliadau hyn.

Sylwadau

4.(1)(1) Sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl yw’r hysbysiad apêl a’r dogfennau a gyflwynir ynghyd â’r hysbysiad apêl.

(2) Sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl yw’r hysbysiad a roddir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62ZA o’r Ddeddf yn datgan bod y cais yn annilys.

Gwybodaeth bellach

5.(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach a bennir sy’n berthnasol i’r apêl.

(2) Rhaid darparu’r wybodaeth honno neu’r dogfennau hynny ar ba ffurf bynnag ac o fewn pa gyfnod bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw ddogfennau pellach oni ddarparwyd yr wybodaeth neu’r dogfennau yn unol â pharagraff (1).

Hysbysu ynghylch y penderfyniad

6. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r canlynol, yn ysgrifenedig, am eu penderfyniad ar apêl, a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw—

(a)     yr apelydd; a

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol.

Trosglwyddo dogfennau

7. Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)     drwy’r post; neu

(b)     drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drosglwyddo’r hysbysiad neu’r ddogfen (yn ôl y digwydd) at berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro.

Tynnu’n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig

8. Pan na fo person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)     yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw, neu

(b)     yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd y tynnu’n ôl neu’r dirymu hwnnw yn derfynol ac yn cael effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond heb fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

 



([1])           1990 p. 8; mewnosodwyd adran 323A gan adran 50 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”).

([2])           Mewnosodwyd adran 62ZB gan adran 29 o Ddeddf 2015.

([3])           Mewnosodwyd adran 62ZA gan adran 29 o Ddeddf 2015.

([4])           2000 p. 7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21), a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.